Skip to content

MVAin4 – papur gwaith 1: mae llun yn werth mil o eiriau

MVAin4     Wales     June 15 2021

MVAin4 – papur gwaith 1

mae llun yn werth mil o eiriau

defnyddio ymagwedd Theori Newid er mwyn datblygu

dealltwriaeth gyffredin o ‘weithredu gwirfoddol’ fel systemau cymhleth

Jurgen Grotz (Sefydliad Ymchwil Gwirfoddoli, UEA)

1. Rhagymadrodd

Mae’r papur gwaith hwn yn disgrifio dull Theori Newid er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o ‘weithredu gwirfoddol’ fel systemau cymhleth, a sut i symud ymlaen â’r dull hwnnw. Diffinnir gweithredu gwirfoddol fel “… rhoi amser ac egni, er budd y gymdeithas a’r gymuned, yr amgylchedd neu unigolion y tu allan i’ch teulu agos (neu’n ychwanegol atyn nhw)” (gweler adran 5). Mae systemau cymhleth yn cynnwys sawl cydran gyda ffactorau ychwanegol sy’n rhyngweithio â’i gilydd.

Mae’r papur hwn wedi’i baratoi gan Jurgen Grotz ar gyfer y prosiect a ariennir gan yr ESRC/UKRI “Ysgogi Gweithredu Gwirfoddol ym mhedair awdurdodaeth y DU: Dysgu o heddiw, parod at yfory”. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o bapurau gwaith a fydd yn adrodd ar wahanol linynnau gwaith y prosiect ymateb cyflym hwn sy’n mynd i’r afael ag ymadfer ar ôl pandemig. Mae’r papur gwaith hwn yn adrodd ar un rhan o linyn gwaith ‘A’, cyd-lunio, misoedd 1-12.

Yn llinyn gwaith ‘A’, “bydd y tîm ymchwil a Phartneriaid y Prosiect yn cyd-lunio fframwaith dadansoddol cyffredin“. Ers hynny, mae’r gwaith hwn wedi’i rannu’n bedair rhan:

  • datblygu cynrychiolaeth graffig o’r model rhesymeg (Theori Newid) er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ‘weithredu gwirfoddol’ fel systemau cymhleth ar draws timau cenedlaethol y Deyrnas Unedig
  • defnyddio’r model rhesymeg i gyfeirio’r gwaith i gyd-lunio cwestiynau ac offer arolwg i’r prosiect gyda’r timau cenedlaethol
  • adolygu’r model rhesymeg yn rheolaidd
  • defnyddio’r model rhesymeg i gyfeirio’r gwaith o ddadansoddi a chyflwyno’r data

Mae’r papur gwaith hwn yn crynhoi’r rhan gyntaf, sef datblygu cynrychiolaeth graffig o’r model rhesymeg (Theori Newid) er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ‘weithredu gwirfoddol’ fel systemau cymhleth ar draws y pedwar tîm cenedlaethol. Mae’r Theori Newid drafft fel y’i cyflwynir yma yn deillio o gyd-lunio gyda holl randdeiliaid y prosiect.

2. Rhesymeg

Mae’r astudiaeth hon yn brosiect cymhleth ar draws pedair gwlad gyda thîm o academyddion ledled y Deyrnas Unedig a’r pedwar corff seilwaith sector allweddol ar gyfer pob gwlad, gyda chefnogaeth panel cynghori o Bartneriaid Prosiect o rwydweithiau proffesiynol, sefydliadau a buddsoddiadau cysylltiedig gan yr ESRC, i’w cyflawni o fewn 12 mis, gan ymdrin â systemau cymhleth. I gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno’r astudiaeth hon, gan roi egwyddorion cyd-lunio ar waith, roedd angen dull cydnabyddedig ac ymchwilydd â phrofiad o ddefnyddio dull o’r fath, er mwyn sicrhau’r ddealltwriaeth gyffredin ofynnol rhwng pawb sy’n ymwneud â’r astudiaeth. Gan hynny, dull Theori Newid oedd y dewis pragmatig ar gyfer datblygu fframwaith dadansoddol y prosiect gan ddefnyddio techneg werthuso sy’n seiliedig ar theori (Weiss, 1972) wedi’i mireinio drwy broses o werthuso systemau cymhleth (Moore et al 2015). Gwaethygwyd y sefyllfa oherwydd o dan gyfyngiadau COVID-19 doedd gweithgareddau cyd-lunio megis gweithdai trafod ddim yn ymarferol. Gofynnwyd i Grotz arwain ar yr agwedd hon ar y gwaith gan ei fod wedi arwain prosiect o gymhlethdod tebyg yn ddiweddar, a hwnnw hefyd wedi’i effeithio gan gyfyngiadau COVID-19, ac wedi defnyddio dull tebyg yn llwyddiannus (Stuart et al 2020).

Y dasg gyntaf oedd sefydlu, o fewn wythnosau ar ôl dechrau’r prosiect, ddealltwriaeth gyffredin o ba weithgareddau, er enghraifft dosbarthu bwyd a meddyginiaethau brys, y byddai’r prosiect yn eu hystyried, y cyd-destun daearyddol ac amserol cymhleth y mae’r gweithgareddau hynny’n digwydd ynddo yn ystod pandemig COVID-19 mewn pedair gwlad, a’r mecanweithiau sy’n dylanwadu arnynt.

Roedd y dull hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer y prosiect hwn, drwy fwydo technegau gwerthuso ar gyfer arsylwi ar ba wahaniaeth y mae gweithgareddau’n ei wneud. O gofio nod cyffredinol y prosiect o gynnig canfyddiadau cynnar a allai gefnogi ‘adferiad’, ‘parodrwydd’ a ‘gwersi ar gyfer setliad ôl-bandemig’, mae’r dull yn berthnasol gan ei fod yn cynnig ffordd systematig o asesu pa wahaniaethau, effeithiau sy’n para’n hirach, y mae’r gweithgareddau’n eu creu yng nghyd-destun y pandemig, ac eto, sut mae cyd-destun a mecanweithiau yn dylanwadu ar hyn.

3. Dull

Mae dull Theori Newid, a boblogeiddiwyd gan Weiss (1972) fel dull o asesu effeithiolrwydd rhaglenni, yn mapio sut a pham y disgwylir i’r newid a ddymunir ddigwydd. Ers hynny mae wedi’i gymhwyso mewn amryw o gyd-destunau ac ar gyfer yr astudiaeth hon mae’n cael ei ddefnyddio i roi cynrychiolaeth weledol o sut a pham y gall gweithredu gwirfoddol wneud gwahaniaeth yn yr ymateb i COVID-19, gan gynnig fframwaith i syntheseiddio’r llinynnau cymhleth ac amrywiol, dimensiynau daearyddol ac amserol yr astudiaeth hon yn systematig. Ar gyfer yr astudiaeth hon, bwriedir i’r Theori Newid gynnig cynrychiolaeth weledol, llwybr rhesymegol, a dangos sut y gellir dod i gasgliadau o’r dystiolaeth sydd ar gael. Mae’n helpu i gyfeirio’r ffocws at dystiolaeth benodol sy’n berthnasol i gwestiynau penodol, er enghraifft sut yr effeithiodd dyraniad adnoddau ar weithgareddau neu a oedd mynediad at dechnoleg ddigidol yn alluogwr ynteu a oedd diffyg mynediad yn arwain at gau allan. Mae’n bwysig cydnabod nad yw’r Theori Newid hon yn ddisgrifiad terfynol a statig o sut mae newidiadau’n digwydd, ond yn hytrach yn ddogfen fyw y bydd angen iddi esblygu yn sgil tystiolaeth newydd a thybiaethau newydd dilynol i’w harchwilio. At hynny, mae’n hanfodol cydnabod bod y gynrychiolaeth weledol yn symleiddiad sy’n ein galluogi i ddeall cysylltiadau gan adeiladu ar gyd-ddealltwriaeth yr ymchwilwyr a’r rhanddeiliaid ar gyfer y prosiect hwn a bod cynrychiolaethau gwahanol yn bosibl.

Roedd y cyfyngiadau a osodwyd oherwydd COVID-19 yn golygu nad oedd gweithgareddau a ddefnyddir yn aml ac sydd wedi’u disgrifio’n dda i ddatblygu Theori Newid ar y cyd, megis cyfres o weithdai trafod ailadroddol gyda gwahanol randdeiliaid, yn ymarferol ar gyfer y prosiect.

Yn hytrach, defnyddiodd y prosiect Ymarfer Delphi wedi’i addasu fel ymateb pragmatig i gymhlethdod gweithredu’r prosiect, a adlewyrchwyd yn yr ystod eang o randdeiliaid; cyfyngiadau COVID-19; hyd y prosiect; a chyfyngiadau cyfathrebu ar-lein.

Mae Ymarfer Delphi yn dibynnu ar broses ailadroddol gyfunol o ddrafftio, gwneud sylwadau ac ailddrafftio. Roedd yr Ymarfer Delphi yn cynnwys cyflwyniadau i’r rhanddeiliaid ar 16 Tachwedd 2020, 10 Rhagfyr 2020, 15 Rhagfyr 2020 er mwyn gwahodd sylwadau ar y gwaith drafftio a chyflwyniad o’r Theori Newid Ddrafft isod, 15 Ionawr 2021.

Fel rhan o’r Ymarfer Delphi, cyflwynwyd ac adolygwyd iaith Theori Newid, yn enwedig ei thermau allweddol, ac adlewyrchir hyn yn y Theori Newid DDRAFFT isod. Yn ychwanegol, cyflwynwyd ac adolygwyd diffiniadau a ddefnyddir yn gyffredin, ac mae rhai o’r rhain wedi’u cynnwys isod yn Adran 5, tudalen 9-10, er gwybodaeth ac er mwyn darlunio.

4. DRAFFT – Theori Newid v#2 11.01.2021

Cyflwynwyd y Theori Newid ddrafft a ganlyn i’r Grŵp Ymchwilwyr Craidd ar 15 Ionawr 2021 gyda’r bwriad o lywio cyfarfodydd dilynol y timau cenedlaethol, gan drafod y cwestiynau ar gyfer yr Alwad am Dystiolaeth. Mae’r Grŵp Ymchwilwyr Craidd yn cynnwys yr un ar ddeg o ymgeiswyr a’r cydlynydd. Mae’r Alwad am Dystiolaeth yn rhan o ddulliau ymchwil y prosiect ac mae wedi’i hanelu at y rhanddeiliaid allweddol yn y pedair gwlad.

Mae’r gynrychiolaeth graffig â chod lliw yn nodi’n gyntaf sut mae’n ymwneud â nod cyffredinol y prosiect, yna sut mae’n ymwneud â’r tri phrif gwestiwn ymchwil fel y’u hamlinellir yng nghynnig y prosiect ac fel y’u nodir yn nheitlau tudalennau unigol y Theori Newid isod.

Mae’r graffig hwn yn cynrychioli ‘Map Ffyrdd’ ac mae’n darparu sail ar gyfer cyd-ddealltwriaeth a ddefnyddir bellach i drafod sut i ateb cwestiynau’r ymchwil yn fanwl gyda’r gwahanol linynnau ymchwil a sut i gyflawni nod cyffredinol y prosiect.

Bydd rhagor o adborth ar y Theori Newid yn cael ei gasglu’n systematig yn ystod cyfarfodydd y timau cenedlaethol sydd i ddod.

Sylwch fod “lles cymdeithasol” wedi’i ddileu o nod gwreiddiol y prosiect, gydag esboniad yn yr adran ‘Diffiniadau’ ar ddiwedd y ddogfen.





5. Diffiniadau

Cafodd y termau a ganlyn, a ddefnyddiwyd wrth bennu nod cyffredinol y prosiect, eu cynnwys yn yr Ymarfer Delphi. Bydd angen eu hadolygu ymhellach yn unol â’r adolygiad parhaus o’r Theori Newid a llinynnau gwaith eraill y prosiect ond fe’u rhestrir isod o ganlyniad i’r Ymarfer Delphi.

Gweithredu Gwirfoddol

Adlewyrchodd yr Ymarfer Delphi gonsensws eang ynghylch diffinio ‘gweithredu gwirfoddol’ yn bennaf drwy awgrymu y dylai’r diffiniad gael ei wneud mor eang â phosibl er mwyn cynnwys cyfranogiad cymunedol mewn grwpiau heb gofrestru neu heb strwythur a gadarnhawyd.

Gweithredu Gwirfoddol yw rhoi amser ac egni, er budd y gymdeithas a’r gymuned, yr amgylchedd neu unigolion y tu allan i’ch teulu agos (neu’n ychwanegol atyn nhw). Mae’n cael ei gyflawni yn rhydd a thrwy ddewis, heb gonsỳrn am enillion ariannol. Mae’n cynnwys y sbectrwm ehangaf o weithgarwch, er enghraifft, datblygu cymunedol, celfyddydau, chwaraeon, seiliedig ar ffydd, addysg, cymdogaeth, ieuenctid, amgylcheddol, iechyd a gofal uniongyrchol. Gall hyn gynnwys gweithgareddau yr ymgymerir â nhw drwy sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn ogystal â chyfranogiad cymunedol a gweithredu cymdeithasol mewn cymdeithasau a grwpiau nad ydyn nhw efallai wedi’u cofrestru neu sydd heb strwythur a gadarnhawyd.

Mae’r diffiniad uchod wedi’i seilio’n fras ar Strategaeth Gwirfoddoli Gogledd Iwerddon, gan ddileu ‘ffurfiol/anffurfiol’ ac ychwanegiad ynghylch grwpiau heb eu cofrestru a heb strwythur a gadarnhawyd. Mae craidd y diffiniad i’w weld hefyd yn Kearney (2001).

Cymuned

Yn ystod yr Ymarfer Delphi cafwyd consensws eang hefyd y dylai’r diffiniad o ‘cymuned’ gynnwys lle, hunaniaeth a buddiannau, ac amgylchiadau. Mae’r canlynol yn ddyfyniad o ddogfen IVR (Ramsay 2012), a awgrymwyd gan un cyfranogwr yn yr Ymarfer Delphi. Mae’r term ‘Volunteering’ wedi’i ddisodli gan ‘Voluntary Action’ i adlewyrchu’r diffiniad uchod.

Voluntary Action [Volunteering] is a situated practice and a collective activity (Brodie et al., 2011). This collectiveness may be social (for instance, taking part in gardening at an allotment) or simply involved (for instance, voluntary action [volunteering] using technology to complete a survey for a charity).

Similarly, the situated nature of these activities can be considered in terms of peoples’ lives, their social relationships or the physical and social sites of their volunteering.

Cymuned is not a given or static concept. Indeed, people are widely acknowledged to belong to multiple communities, whether these are geographical or of interest and/or shared experiences. But it is important to recognise that voluntary action [volunteering] happens in space and place, and that the community is simultaneously a location, a site of identification and a set of relationships. (Ramsay, 2012).

Angen (yn benodol i’r pandemig a/neu yn gyffredinol)

Yn ystod yr Ymarfer Delphi, awgrymwyd bod yr ymadrodd ‘angen heb ei ddiwallu’ yn cynnwys disgrifiad diangen. Er na chafodd hyn ei egluro’n llawn, cydnabuwyd bod ‘angen’ yn derm anodd ond yn un a oedd yn gofyn am ddiffiniad clir i’w ddefnyddio yn y prosiect hwn, gan amrywio o anghenion sylfaenol fel bwyd a lloches i anghenion mwy cymhleth fel llesiant. At ddibenion y gynrychiolaeth graffig uchod, disodlwyd ‘angen’ gan “Pwy sy’n elwa a sut” gan ganiatáu asesiad o sut y cafodd yr angen ei fodloni.

Lles cymdeithasol

Yn ystod yr Ymarfer Delphi, gwrthodwyd y term ‘lles cymdeithasol’ yn gyffredin, er enghraifft, am nad oedd “yn adlewyrchu iaith gyffredin y sector“, am ei fod yn “derm eithaf cul“, “yn rhy agos at y syniad o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth” ac am ei bod “yn ymddangos bod ychydig o gam-gymharu rhwng y deipoleg isod a goblygiadau diffiniad o weithredu gwirfoddol sydd wedi’i adeiladu o amgylch cysyniadau lles cymdeithasol a darparu gwasanaethau a fyddai, er enghraifft, yn hepgor diwylliant a chwaraeon“. Gan hynny, cafodd ei dynnu o’r gynrychiolaeth graffig uchod.

6. Trafodaeth a chasgliadau

Mae’r papur gwaith hwn yn disgrifio’r ymateb pragmatig i amgylchedd ymchwil cymhleth a newidiol, drwy ddatblygu Theori Newid ar ddechrau’r prosiect i roi disgrifiad ymarferol o amcanion, camau a chanlyniadau cysylltiedig allweddol. Mae’n agored i newidiadau parhaus ac yn destun trafod beirniadol cydweithredol. Er hynny, mae’n ymddangos bod y dull a ddisgrifir yma wedi darparu offeryn defnyddiol, yn unol â’r bwriad, drwy ddarparu cynrychiolaeth graffig a all ddangos o gyfnod cynnar sut mae partneriaid y prosiect yn gweld y tirlun ymchwil a sut y gall y prosiect fynd i’r afael â nod cyffredinol y prosiect a’i dri phrif gwestiwn ymchwil.

Mae dewis dull Theori Newid a’i ddatblygu’n ymarferol yn dangos bod y prosiect cyfan wedi’i seilio ar ymrwymiad i gydweithredu a chyd-lunio, a hynny drwy bartneriaeth rhwng tîm ymchwil amlddisgyblaeth ac aml-randdeiliad sy’n cynnwys academyddion ac arbenigwyr blaenllaw yn y sector, gan weithio ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig.

7. Cyfeiriadau

Brodie, E., Hughes, T., Jochum, V., Miller, S., Ockenden, N., a Warburton, D. (2011). Pathways through participation: What creates and sustains active citi- zenship? Llundain: NCVO/IVR/involve.

Kearney J. “The Values and Basic Principles of Volunteering: Complacency or caution?” Voluntary Action 2001/2007;3(3):63–86, wedi’i adargraffu yn Davis-Smith, J. a Locke, M. Goln (2007) Volunteering and the Test of Time: Essays for policy, organisation and Research. Llundain: Sefydliad Ymchwil Gwirfoddoli.

Moore, G. F., Suzanne, A., Barker, M., Bond, L., Bonell, C., Hardeman, W., Moore, L., O’Cathain, A., Tinati, T., Wight, D. a Baird, J. (2015) “Process evaluation of complex interventions: Medical Research Council guidance” BMJ 2015; 350 :h1258.

Ramsay, N (2012) Understanding how volunteering creates stronger communities: a literature review. Llundain: Sefydliad Ymchwil Gwirfoddoli https://www.bl.uk/collection-items/understanding-how-volunteering-creates-stronger- communities–a-literature-review

Stuart, J., Kamerāde, D., Connolly, S., Ellis Paine, A., Nichols, G. a Grotz, J. (2020) The Impacts of Volunteering on the Subjective Wellbeing of Gwirfoddolwyr: A Rapid Evidence Assessment. What Works Centre for Wellbeing and Spirit of 2012 https://whatworkswellbeing.org/wp-content/uploads/2020/10/Volunteer-wellbeing- technical-report-Oct2020-a.pdf

Weiss, C.H. (1972) Evaluation Research: methods for assessing program effectiveness. Englewood Cliffs N.J: Prentice Hall.